DIGWYDDIADAU

Diwydiant Cymru a’r Rhyfel Byd Cyntaf

National Slate Museum

22/01/2018 - 15/07/2018

Arddangosfa

National Slate Museum
Gwynedd
Llanberis
LL55 4TY

Gwefan: http://museum.wales/slate

Mentrodd degau o filoedd o Gymry i frwydro yn Ewrop rhwng 1914 a 1918. Ond yn ôl yng Nghymru fach, roedd miloedd hefyd yn gweithio yn y diwydiannau hanfodol – yn eu plith y menywod a oedd yn rhan o’r gweithlu am y tro cyntaf. Bydd yr arddangosfa hon yn edrych ar eu cyfraniad, y broses gynhyrchu, yr effaith ar ymdrech y rhyfel, ac effaith y rhyfel ar ddiwydiant Cymru.